Yr Haclediad

Barn heb ymchwil na gwybodaeth.

About the show

Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™

Yr Haclediad on social media

Episodes

  • Da Di Dane DeHaan De?!

    24 April 2020  |  2 hrs 16 mins
  • Codiad Ymyl Heddychlon

    25 March 2020  |  1 hr 57 mins

    Smij o dan 2 awr o hwyl ynghwmni mêts? JUST BE CHI ANGEN!

  • Gin & Aptonic

    28 February 2020  |  2 hrs 18 mins

    Ar bennod ddiweddara'r Haclediad, bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dweud RIP i Apton, yn croesawu dyfodol 5G yr A55 ac yn trio ffigro dyfodol darlledu Cymru.

  • Brynjury Recovery Blwyddyn Newydd

    16 January 2020  |  1 hr 49 mins

    Blwyddyn newydd dda gan griw’r Haclediad! Neidiwch mewn i ~2awr o epic i groesawu 2020 gyda Bryn, Iestyn a Sioned - byddwn ni’n trafod sut fod camera drws Ring yn rili doji, Sonos yn siwio Google, ac afterparty epic sy DDIM yn siarad am Star Wars Rise of Skywalker, ond sydd sorto yn.

  • 9 mlynedd yn y busnes

    25 October 2019  |  1 hr 51 mins

    Ar bennod ddiweddaraf dy hoff bodlediad oedd-yn-arfer-bod-am-tech-ond-sy-rŵan-am-Duw-â-ŵyr-be: Watchdog yn mynd yn gonzo ar Monzo; mwy o ddoethineb Craig Mod, ac mi aeth Iestyn i weld Joker 🤡🤡🤡

  • Pawb at y Biji-bô!

    18 September 2019  |  1 hr 47 mins

    Tro yma ar eich hoff podlediad sy ddim wastad ‘dan 2 awr:
    Iest sy’n mynd trwy holl gyhoeddiadau newydd Apple, ni’n holi lle mae’r sci fi Cymraeg, mwy o stwff Apple, box sets, llyfrau, mwy o Apple a’r after parti hiraf ar record.

  • Ffeindia dy poni mewnol

    3 August 2019  |  1 hr 40 mins

    Ym mhennod parti’r bŵsi’r haf, mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio osgoi’r negyddol a chofleidio’r positif, iei!

  • FaceBucks

    26 June 2019  |  1 hr 45 mins

    Ar bennod hira’r haf bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn ystyried yr axis of evil tu ôl i Libra, arian newydd Facebook

  • Huawehei!

    28 May 2019  |  2 hrs 2 mins

    Yn y bennod ddiweddaraf mae Bryn, Sions ac Iestyn yn trio deall rhyfel fasnach rhwng China a'r UDA, ac yn cael collective brainsplode emoji o ganlyniad.

  • Mae Popeth Yn Ossym!

    9 April 2019  |  1 hr 22 mins

    Croeso i Haclediad cynta’r gwanwyn - mae’r ŵyn yn prancio, y blodau’n blaguro a da ni off i fyw mewn tŷ bêls heb drydan…

  • Sneaky Nest a Robo-Iest

    15 March 2019  |  1 hr 34 mins

    Dewch i ymuno efo Bryn, Sioned a Robot Iestyn am bennod arall o’ch hoff podlediad tech/gin/box sets!

  • Super-Techy-Gwylio Bocsets-Marie-Kondo-trocious

    19 January 2019  |  1 hr 25 mins

    Mae criw’r Haclediad yn hitio 2019 yn galed ym mhennod gyntaf 2019 - bydd Bryd, Iestyn a Sioned yn trafod iTunes a telis newydd, bocs sets S4C, diffodd social media a spoiler special afterparty cyfan ar Mary Poppins. Hoffwch, rhannwch a gadwch sylw!

  • Tri Gwirod Doeth

    21 December 2018  |  1 hr 51 mins

    Mae'r tân yn craclo, yr hors d'oeuvres allan o'r tupperware a mae Iest yn gwisgo ei hoff ffroc goctail sbarcli - ydi, mae'n amser am barti Nadolig yr Haclediad! Yn y garthen glyweledol yma bydd Iest, Sions a Bryn yn yfed gormod, trafod eu hoff ddarnau o'r flwyddyn AC YN TRIO AROS YN BOSITIF!

  • Ffototal Wipeout

    12 November 2018  |  1 hr 30 mins

    Ar bennod mis tywyll Tachwedd - bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn dweud tata wrth terabytes o luniau Flickr, trafod y Google walkout a jyst pa mor doji ydy Silicon Valley.

  • Toilet BlockChain

    1 October 2018  |  1 hr 38 mins

    Croeso i Haclediad cynta’r Hydref – mae Bryn newydd ddod nôl o Chicago, Iestyn yn ei mansion newydd yn Dre ac yn paratoi i redeg hanner Marathon, a mae Sioned yn yfed Öl Mörk a hen wîn. OND mewn newyddion tech, mae iOS12 a’r oriawr Apple newydd allan, a da ni’n trio dod i ddeall y blockchain efo podlediad ZigZag (spoilyrs: dal dim clem).

  • Llyfr Glas Kobo

    18 August 2018  |  1 hr 7 mins
    ar, eisteddfod, elyfrau, google, llyfrau llafar, nest, vr

    Post eisteddfod blues? Deifiwch mewn i bennod diweddaraf yr Haclediad i glywed mwy o Bryn blin ar e-lyfrau, Iest yn gadael y nest a Sioned yn ffrîcio allan bod Lin-Manuel Miranda yn Nghymru. Hefyd gwefan newydd "Y Pod", planhigion vs anifeiliaid a llwyth o tech a bywyd ar eich hoff podcast niche am alcohol a wifi

Mastodon