Yr Haclediad

Barn heb ymchwil na gwybodaeth.

About the show

Tri ffrind yn rhannu diod a thrafod technoleg, teli, ffilm a phopeth arall unwaith y mis. Podlediad hyna’r Gymraeg ™

Yr Haclediad on social media

Episodes

  • Iawn Cant?

    30 July 2021  |  2 hrs 50 mins

    Dros yr 11 mlynedd diwethaf mae Bryn, Sions ac Iest wedi creu miloedd o oriau o #cynnwys i’ch clustiau chi — a dyma benllanw eu celf clywedol — pennod 100 o’r Haclediad!

  • Sbeshal Audio

    21 June 2021  |  3 hrs 33 secs

    Mis yma mae Bryn, Iest a Sioned yn trafod holl ddatblygiadau shiny newydd WWDC Apple; yn rhoi tro ar ffilm di ddim "Ender's Game" ac wrth gwrs yn cynnig cwpl o oriau o #cynnwys i gael chi trwy weddill 2021 efo gwên ar eich gwyneb ☺️

  • Cream of the Cymoedd

    23 May 2021  |  3 hrs 21 mins

    OK, so chi’n edrych ar y running time yna ac yn meddwl “be ddiawl alle gyfiawnhau 3hr+ running time?

    SPECIAL GUEST, na be!

  • Non Fungible Gojira

    24 April 2021  |  2 hrs 45 mins

    Tro ‘ma ar eich hoff substitute am fywyd cymdeithasol tan i’r pybs agor: bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn checkio allan fights mawr byd tech, a fights mawr Kaiju yn ‘Godzilla King of the Monsters’

  • Haclediad 2: Turbo // Tweet Fighter

    31 March 2021  |  2 hrs 49 mins

    "For You, The Day Yr Haclediad Graced Your Village Was The Most Important Day In Your Life, But For Us? It Was Tuesday.”
    Mae Ffilm Di Ddim y mis yma yn epic yn y genre Game-to-Movie, peak 1994: yr anhygoel Street Fighter!

  • Flappy Engines

    28 February 2021  |  2 hrs 50 mins

    Dewch i fwynhau * 2+ awr o tech, sgwrs a films gwael gyda Iestyn, Bryn a Sioned - mis yma da ni nôl ar y blockchain yn prynu celf, yn gamifyo ein pelvic floor muscles ac yn canu marwnad i Daft Punk (RIP Robots Trist).

  • Blew a Bara

    31 January 2021  |  2 hrs 39 mins

    Croeso i 2021, yn llawn gobaith, uncorns ac enfysau... Neu just blwyddyn arall o tech bants, booze a ffilms gwael gyda Bryn, Iestyn a Sioned 😍

  • NaDollyg Llawen 2020

    23 December 2020  |  2 hrs 21 mins

    Ydy, mae popeth yn eitha ofnadwy ar hyn o bryd - ond mae Bryn, Iest a Sioned yma i sgwrsio am 2 awr a chadw cwmni i chi ☺️🍷❤️

  • Manic Pixie Dream Hars Box

    22 November 2020  |  2 hrs 56 mins

    Gweithio o adre? Isie esgus bod ganddo chi ffrindiau yn malu cachu ar y ddesg drws nesa? Dyma’r union beth i chi- Haclediad #92!

  • Rheg Mlynedd yn y Busnes

    25 October 2020  |  3 hrs 17 mins

    Logiwch allan o fywyd go-iawn am bnawn, joiwch Lockdown 2: Electric Boogaloo a dewch i ddathlu 10 mlynedd o’r Haclediad!

  • Pope on a Rope

    27 September 2020  |  2 hrs 38 mins

    Ar bennod diweddaraf eich hoff bodlediad 2awr+ bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod llwyth o gyhoeddiadau Apple newydd, Android 11, Q-Anon yn cyrraedd Caerdydd, algorithmau hiliol a llawer mwy.

  • Apple, Epic a’r Gwyddonydd Cwerylgar

    24 August 2020  |  2 hrs 20 mins

    🍹Ar bennod ddiweddaraf yr Haclediad, mae Bryn, Iestyn a Sioned yn cymryd amser allan o’u bywydau jet-set i ymlacio a chael parti haf. Ry’n ni yma gyda llond pwll padlo o storis “ffycin adorable” am y tech diwedaraf a Ffilm Di Ddim anhygoel arall gan frenin y genre: Gerard Buttwad.

  • Werewolf SuperTed

    24 July 2020  |  2 hrs 35 mins

    Ar bennod gorlawn ddiweddara’r Award-Winning Haclediad🥈 mae Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod chips Afal, mwy o Huawe-hei, Henry Cavill yn adeiladu PC mewn vest, e-scooters a llwythi mwy.

  • Rhagflast o'r Podcast

    14 July 2020  |  14 mins 59 secs

    Wedi clywed am Yr Haclediad ar ôl ein llwyddiant ysgubol yn dod yn 2il yng Ngwobrau’r British Podcast Awards? Dim clem be ydy’r sioe random yma? Gwranda ar y nugget aur yma – dyma oreuon o’n sgyrsiau o 2019! Am fwy fel hyn a llawer mwy, sdicia ni yn dy app podlediadau neu cer i haclediad.cymru

  • Mr Mistoffe-plîs stopia

    19 June 2020  |  2 hrs 37 mins

    Bydd Bryn, Iestyn a Sioned yn trafod sut mae’r Premier League a byd e-sports basically r’un peth erbyn hyn; saga parhaol app contact tracio yr NHS; Shopify fel lle gwell i siopa nac Amazon a llawer LLAWER mwy.

  • Crims Hems-worth it?

    22 May 2020  |  2 hrs 38 mins

    Mae Bryn, Iestyn a Sioned yma gyda chi am y 2.5 (😬) awr nesa i’ch arwain trwy stwff techy fel skillz Cwmrâg Alexa, testio’r iPhone SE newydd, rhoi Chrome OS ar Macs, app tracio symptomau hollbwysig ond doomed NHSx a llwythi mwy.

Mastodon