Episode 4

Yr un gyda’r gwestai arbennig!

00:00:00
/
00:50:19

19 January 2011

50 mins 19 secs

Your Hosts
Special Guest

About this Episode

Croeso i rifyn 4 o’r Haclediad, gyda’r criw arferol y tro hwn mae Mei Gwilym (@meigwilym), anturiaethwr cod a’n space cadet dof ni am y noson. Bydd Sioned (@llef), Bryn (@bryns), Iestyn (@iestynx) a Mei yn trafod Fforwm “cyfryngau newydd” (aw!) S4C, yn cymryd cipolwg ar gynnyrch y Consumer Electronics Show o Las Vegas a thrafod gêm iPhone Gymraeg gyntaf ‘Cerrig Peryg’ ynghyd â llawer mwy.
Mae siawns i glywed am App Inventor Android hefyd, sy’n declyn da ni’n gobeithio ei ddefnyddio yma ar ye Haclediad yn fuan, croesi bysedd.
Ond y pwnc sydd wedi tanio’r mwyaf ar yr Haclediad yma yw, wrth gwrs, digwyddiad Hacio’r Iaith ar y 29ain o Ionawr yn Aberystwyth. Dewch draw, neu os na allwch chi, gwrandewch allan am yr Haclediad byw o’r digwyddiad, allwch chi ddim colli allan ar honno!
Cofiwch adel sylw yma os oes unrhyw beth gennych i’w rannu, da ni wastad yn falch iawn o glywed eich syniadau, sylwadau a synfyfyrion.

The post Haclediad #4 – yr un gyda’r gwestai arbennig! appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Support Yr Haclediad

Episode Comments

Mastodon