Episode 12

Y Byd Post-PC (feat. Bryn Blin)

00:00:00
/
00:51:14

6 September 2011

51 mins 14 secs

Your Hosts

About this Episode

Wedi hir ymaros, dyma gwblhau set o ddwsin i chi efo Haclediad #12 – Y Byd Post-PC. Gwyliwch allan am deimladau cryf iawn yn yr Haclediad tanbeidiaf hyd yn hyn! Yn y rhifyn hwn byddwn ni’n trafod ymddiswyddiad Steve Jobs o’i safle fel CEO Apple Inc, creu cwmni Googorola wrth i Google brynu Motorola ac ymadawiad HP o’r farchnad cyfrifiaduron cartref.

Be’ mae hyn i gyd yn meddwl i ni fel defnyddwyr, ydan ni wirioneddol mewn byd ‘post-pc’? Da ni’n sicr mewn byd post-papur serch hynny, ond ydi Cymru yn syrthio ymhellach tu ôl iddi, gyda phroblemau Y Lolfa yn cyhoeddi e-lyfrau, a’r prinder o aps i Blant Cymru? Gewch chi glywed y cyfan efo ni yma ar Haclediad #12!

Mwynhewch!
Sioned (@llef), Bryn (@Bryns) ac Iestyn (@Iestynx)

The post Haclediad #12 – Y Byd Post-PC (feat. Bryn Blin) appeared first on Hacio'r Iaith » Ffrwd Podlediad.

Support Yr Haclediad

Episode Comments

Mastodon